Rhowch Gymorth i'r Apel Trychineb Tirlithiad
Llygad dystion yn son am debygrwydd i drychineb Aberfan
Yn dilyn glaw trwm ar Fawrth 1af 2010, dinistriwyd rhannau mawr o ardal Bududa yn Mbale gan dirlithiadau. Mae dros 300 o bobl ar goll neu wedi marw, yn cynnwys dros 100 o blant oedd yn trio dychwelyd o'r ysgol. Mae dros 2000 o bobl wedi eu gadael yn ddigartref heb unrhyw ffordd o wneud bywoliaeth a chynnal eu teuluoedd. Maen nhw angen eich cymorth chi ar frys.

Mae partneriaid lleol PONT yn gweithio yn yr ardal nawr er mwyn darparu cysgod, blancedi, bwyd a moddion. Ar hyn o bryd rydym ni'n casglu rhoddion ariannol fydd yn mynd yn syth at ein partneriaid elusennol yn Mbale. Gallwch chi roi'n ariannol trwy ddilyn un o'r camau sy'n cael eu disgrifio ar dudalen rhoi a chefnogi y wefan. Dylai sieciau fod yn daladwy i PONT gyda Disaster Relief Fund wedi nodi ar y cefn.

PONT's local partners are now working in the area to provide shelter, blankets, food and medicines. We are currently collecting financial donations which will go directly to our partner NGO's in Mbale. You can donate by cheque as described on the donate page, please write Disaster Relief Fund on the back of the cheque. A BBC article with more information on the disaster, and PONT's response to it can be found here.





Rhoi a Chefnogi